Apwyntiadau a Phresgripsiynau
Apwyntiadau
Os ydych chi’n teimlo poen ddifrifol yn y frest, wedi llewygu, yn cael trafferthion anadlu difrifol, yn teimlo gwendid mewn un ochr, neu os nad ydych chi’n siarad yn glir neu rydych chi’n gwaedu'n ddifrifol, rhowch y ffôn i lawr a galw 999 ar unwaith.
Mae ein canolfannau iechyd yn Llai a’r Orsedd ar agor 8.30yb – 6.30yp Dydd Llun i Ddydd Gwener. Gofynnwn i bob claf ddefnyddio’r ffôn, e-bost neu’r system ar-lein, Klinik, yn y lle cyntaf. Rydym yn derbyn galwadau rhwng 8.00yb a 6.00yp bob dydd.
I wneud apwyntiad gyda Meddyg Teulu, Nyrs neu Gynorthwyydd Gofal Iechyd, gofynnwn yn garedig i bob claf gwblhau ein system archebu ar-lein Klinik I wneud yn siŵr bod ein llinellau ffôn ar gael i’r henoed a’n cleifion mwyaf bregus. Bydd y ffurflen ar-lein ar agor i rhwng 8am a 12.30pm.
Fel arall, gall cleifion nad oes ganddynt fynediad ar-lein ffonio ein tim cynghori cleifion ar 03333 323 260. Bydd un o'n cynghorwyr cleifion yn mynd â chi drwy'r cwestiynau sgrinio dros y ffôn.
Ceisiadau brys
Gellir gwneud ceisiadau brys gan ddefnyddio ein ffurflen Klinik ar-lein. Os nad oes gennych fynediad i'r ffurflen ar-lein ac yn dymuno siarad â'n cynghorwyr cleifion, ffoniwch rhwng 8am - 9am, gofynnwn i chi ffonio dim ond os ydych chi'n teimlo bod eich cais yn un brys iawn a bod angen i chi gael eich gweld y diwrnod hwnnw.Mae pop ymholiad yn cael ei asesu trwy system brysbennu Klinik a byddwch yn cael apwyntiad sy'n briodol i'r brys; effallai y cewch apwyntiad ar ddiwrnod arall. Ar ôl y broses brysbennu, bydd ein cynghorwyr cleifion yn cysylltu â chi i gadarnhau eich apwyntiad.
Ymgynghoriadau Arferol ac Ymlaen Llaw a phob ymholiad arall
I wneud cais am ymgynghoriad arferol ac ymlaen llaw neu anfon ymholiad cyffredinol, cyflwynwch gais gan ddefnyddio Klinik.
Ar ôl i’ch cais gael ei frysbennu, os oes angen apwyntiad, bydd pob claf yn cael cynnig dewis o apwyntiad wyneb yn wyneb neu dros y ffôn (yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau cenedlaethol) a bydd apwyntiadau ar gael yn ôl y brys ar gyfer hyd at chwech i wyth wythnos ymlaen llaw. Os hoffech ffonio'r feddygfa'n uniongyrchol ar gyfer apwyntiad nad yw'n frys, mae ein llinellau ffôn ar agor 9.00yb-12.30yp, ac ar gyfer ymholiadau cyffredinol 11.00am-5.00pm. Ar ôl brysbennu, bydd ein cynghorwyr cleifion yn cysylltu â chi i gadarnhau eich apwyntiad.
Apwyntiadau Brys
Os oes angen i chi weld meddyg mewn argyfwng, ffoniwch ein Llinell Gleifion ar 03333 323 260 a bydd cynghorydd cleifion yn brysbennu eich galwad. Sylwch y bydd eich ymholiad yn cael ei asesu trwy system brysbennu Klinik ac efallai y cewch apwyntiad ar ddiwrnod arall.
Os ydych chi’n teimlo poen ddifrifol yn y frest, wedi llewygu, yn cael trafferthion anadlu difrifol, yn teimlo gwendid mewn un ochr, neu os nad ydych chi’n siarad yn glir neu rydych chi’n gwaedu'n ddifrifol, rhowch y ffôn i lawr a galw 999 ar unwaith.
Cyngor Meddygol
Gallwch wneud y canlynol:
- Fynd i wefan Dewisiadau’r GIG (NHS Choices) i gael mwy o wybodaeth ar eich cyflyrau
- Ffonio Galw Iechyd Cymru, llinell wybodaeth 24 awr dan arweiniad nyrsys, ar 111
- Am gyngor iechyd meddwl ffoniwch 111 and gwasgwch 2
- Gellir cael cyngor meddygol trey ap GIG Cymru
Apwyntiadau y tu allan i oriau
Mae’n llinellau ffôn yn cau am 6.30pm. Y tu allan i'n horiau agor, mae Gwasanaeth Allan-o-Oriau’r Meddygon Teulu (a gomisiynwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) yn gweithredu. Gellir cysylltu â’r gwasanaeth ar 111
Ymweliadau Cartref
Os ydych chi'n gaeth i'r tŷ ac yn methu â chyrraedd y feddygfa trwy ddulliau eraill, gallwch ofyn am ymweliad cartref gan un o'n meddygon teulu trwy ffonio'r Llinell Gleifion cyn canol dydd.
Cofiwch, os gwelwch yn dda, y gellir gweld sawl person yn y feddygfa yn yr amser y mae'n ei gymryd i ymweld â'r cartref, felly gofynnwn i gleifion ofyn am ymweliad cartref dim ond pan nad ydyn nhw'n wirioneddol yn gallu mynychu’r feddygfa’n bersonol. Gallwn drefnu ymgynghoriad ffôn neu fideo gyda meddyg ar gais.
Bydd meddyg yn eich ffonio i drafod eich problem cyn mynychu, ac efallai y byddwn yn trefnu i'n Hymarferydd Gofal Brys ymweld â chi.
Presgripsiynau
Gallwn anfon presgripsiynau’n uniongyrchol i fferyllfa enwebedig. Siaradwch ag un o'n staff Derbynfa i'n cynghori ni o'ch dewis.
Ar hyn o bryd rydym yn anfon presgripsiynau’n rheolaidd i:
- Fferyllfa Llai, Gofal Iechyd Vittoria Cyf
- Fferyllfa Gresffordd, Gofal Iechyd Vittoria Cyf
- Fferyllfa’r Orsedd, Heol Caer, Yr Orsedd
I archebu presgripsiwn amlroddadwy, gallwch:
- Drwy ddefnydio ap GIC Cymru
- Trwy’r system Klinik ar-lein
- Trwy’r post
- Anfon atom slip a gyflwynir dro ar ôl tro, neu restr o feddyginiaethau sydd eu hangen arnoch, trwy’r post
- Wneud cais yn bersonol trwy ymweld ag un o'n meddygfeydd. Gellir hefyd roi ceisiadau trwy'r blychau llythyrau pan fyddwn ar gau
Mae ceisiadau am bresgripsiynau fel arfer yn cymryd 48 awr i'w prosesu a'u hanfon i'ch fferyllfa enwebedig.
Sylwch, os gwelwch yn dda, er mwyn osgoi camgymeriadau mewn meddyginiaethau, nad ydym yn cymryd ceisiadau am bresgripsiwn dros y ffôn.
Ymholiadau Cyffredinol
Gallwch wneud y canlynol:
- Defnyddiwch y gwasanaeth Klinik i anfon eich cais atom. Gallwn brosesu’r rhan fwyaf o geisiadau gweinyddol a cheisiadau am nodiadau ffitrwydd ac ati gan ddefnyddio’r system hon a’i hargymell fel man galw cyntaf
- E-bostio info@alynfamilydoctors.co.uk. Sylwch, os gwelwch yn dda, fod hyn ar gyfer ymholiadau rheolaidd yn unig a bydd yr e-bost hwn yn cael ei ddarllen gan aelod o'r tîm Derbyn. Peidiwch â'i ddefnyddio, os gwelwch yn dda, ar gyfer unrhyw faterion brys
- Ffonio’n Llinell Gleifion ar 03333 323 260 ar ôl 11am yn unig