Cofrestru fel Claf
I gofrestru yn y practis, mae angen i chi sicrhau eich bod yn byw o fewn ffin ein practis ac yn llenwi Ffurflen Cofrestru Cleifion Newydd GMS1W sydd hefyd ar gael dros y cownter ym mhob un o’n clinigau.
Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn
- Bydd angen i chi ddarparu prawf o'ch cyfeiriad a llun Adnabod (mae trwydded yrru yn ddigonol i'r ddau)
- Bydd angen i chi fynd i apwyntiad gwirio claf newydd gyda nyrs. Yn ddelfrydol, dylech ddod â'ch ffurflen gofrestru wedi'i chwblhau a phrofion hunaniaeth cyn eich apwyntiad gwirio claf newydd
- Bydd angen i chi gael cyflenwad 1 mis o'ch meddyginiaeth gyfredol gan eich Meddyg Teulu, er mwyn sicrhau bod gennych ddigon i bara tan eich apwyntiad gwirio claf newydd
Os yw'r claf o dan 16 oed
- Bydd angen i blant o dan 16 oed y mae eu rhiant neu warcheidwad wedi cofrestru neu yn cofrestru yn y practis ar yr un pryd ddarparu naill ai:
- Eu tystysgrif geni wreiddiol neu gopi ardystiedig; neu,
- Basport
Newid manylion
Wrth gofrestru gyda'r practis, rydym yn argymell eich bod yn optio i mewn i ddefnyddio Fy Iechyd Ar-Lein, a fydd yn eich galluogi i drefnu apwyntiadau ar-lein, archebu presgripsiynau ailroddadwy ar-lein a derbyn negeseuau testun i’ch atgoffa o apwyntiadau.
Gwnewch yn siŵr, os gwelwch yn dda, eich bod yn cadw'ch manylion yn gyfredol, gorchwyl y gallwch chi ei wneud eich hun drwy ddefnyddio Fy Iechyd Ar-Lein neu drwy gysylltu â'r Dderbynfa.
Fy Iechyd Ar-Lein

Mae'r system Fy Iechyd Ar-Lein yn caniatáu ichi drefnu apwyntiadau ymlaen llaw ar-lein, archebu eich presgripsiynau ailroddadwy a gweld rhai elfennau o'ch cofnod meddygol fel cofnodion alergeddau ac imiwneiddiadau.
I gofrestru, lawr lwythwch a chwblhewch y ffurflen hon a'i hanfon trwy e-bost gyda chopi wedi'i sganio o lun Adnabod i info@alynfamilydoctors.co.uk. Bydd aelod o'n tîm Derbyn yn prosesu'ch cais ac yn anfon eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair trwy e-bost. Fel arall, gallwch ymweld ag unrhyw un o'n practisiau gyda'ch Rhif Adnabod chi a chael enw defnyddiwr a chyfrinair yn bersonol.
Sylwch, os gwelwch yn dda, nad yw'r Practis yn gallu cynorthwyo gydag unrhyw faterion technegol neu broblemau wrth fewngofnodi i'r system Fy Iechyd Ar-lein. Am gymorth, cysylltwch â thîm cymorth y gwasanaeth ar mholsupport@wales.nhs.uk