Gwasanaethau Gofal Iechyd

Bydd amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gofal iechyd yn gofalu amdanoch yn unol â'ch angen penodol.

Meddygon

Yn ogystal â gofalu am eich anghenion iechyd cyffredinol, gall ein meddygon:

Gallwn hefyd gynnig gwaith preifat cyfyngedig gan gynnwys:

Trafodwch y ffioedd ar gyfer y rhain, os gwelwch yn dda, gyda'n tîm Derbyn.

Uwch Ymarferydd Nyrsio

Efallai y byddwch yn gweld Uwch Ymarferydd Nyrsio yn y practis yn gynyddol.

Nyrs Gofrestredig sydd wedi'i haddysgu i lefel Meistr (neu gyfwerth) yw Uwch Ymarferydd Nyrsio. Maent yn chwarae rhan bwysig yn y feddygfa. Yn dilyn y broses brysbennu, efallai y cewch apwyntiad ag Uwch Ymarferydd Nyrsio yn lle Meddyg Teulu.

Beth mae Uwch Ymarferydd Nyrsio yn ei wneud?

Mae ystod eang o dasgau y gall Uwch Ymarferwyr Nyrsio eu cyflawni. Gallant:

Nyrsys a chynorthwywyr gofal iechyd

Mae’n tîm o nyrsys practis a chynorthwywyr gofal iechyd ar gael i weld cleifion ar gyfer:

Rheoli Clefydau Cronig

  • Bywyd Iachus Menywod a Dynion
  • Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD)
  • Asthma
  • Diabetes
  • Gorbwysedd
  • Gwiriadau pwysedd gwaed
  • CVA / TIA

Imiwneiddiadau

  • Brechiadau arferol plentyndod a'r glasoed
  • Brechiadau teithio
  • Brechiadau ar gyfer ffliw / niwmonia / eryr
  • Pigiadau fitamin B12

Addysg Iechyd

  • Cyngor ar reoli pwysau, diet ac ymarfer corff
  • Rhoi'r gorau i ysmygu
  • Cyngor ar alcohol

Bywyd Iachus Menywod a Dynion

  • Ymwybyddiaeth o'r Fron a’r Ceilliau
  • Cytoleg Serfigol / Profion Ceg y Groth
  • Atal cenhedlu a Therapi Adfer Hormonau (HRT)

Ymarferwyr Gofal Brys

Mae’n hymarferwyr gofal brys yn barafeddygon hyfforddedig a gallant ymweld â chi gartref os byddwch chi'n gofyn am ymweliad cartref. Mae hwn yn rhan o'r Gwasanaeth Ymweld â Chartrefi a ariennir gan glwstwr Gogledd a Gorllewin Wrecsam o Bractisiau Meddygon Teulu.

Efallai y bydd ein hymarferwyr gofal brys o fewn y feddygfa hefyd yn eich archwilio ar gyfer mân anhwylderau.

Fferyllwyr

Rydym yn cynnal clinigau adolygu meddyginiaethau ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Nghanolfan Iechyd Llai. Efallai y bydd meddyg neu nyrs yn gofyn ichi fynd i un o'r clinigau hyn i drafod eich meddyginiaethau gyda'r fferyllydd, a fydd yn gallu adolygu'ch rhestr feddyginiaeth a chynnig cyngor.

Awdiolegydd

Mae awdiolegydd hyfforddedig yn gweithredu clinig yng Nghanolfan Iechyd Llai ar fore Mawrth. Gall meddyg neu nyrs eich cyfeirio at y clinig hwn i gael asesiad colli clyw, pendro neu golli cydbwysedd.

Presgripsiynydd Cymdeithasol

Mae Presgripsiynu Cymdeithasol yn eich helpu i archwilio gwasanaethau ychwanegol sy'n eich cefnogi i wella'ch iechyd, eich ymdeimlad o les a gwneud newidiadau cadarnhaol yn eich bywyd. Mae'n wasanaeth defnyddiol i'r cleifion hynny sy'n wynebu materion fel iselder ysbryd neu bryder, pryderon am ddyled neu broblemau’n ymwneud â thai, profedigaeth neu arwahanrwydd.

Gall unrhyw un o'n gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eich cyfeirio at ein Presgripsiynydd Cymdeithasol, sy'n gallu siarad â chleifion am y materion maen nhw'n eu hwynebu a dod o hyd i'r gwasanaethau cywir i'ch cefnogi chi.