Safonau Mynediad
Cyhoeddwyd set newydd o safonau gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mawrth 2019, sy’n anelu at godi a gwella lefel y gwasanaeth i gleifion yng Nghymru o’u meddygfeydd teulu.
Dyma'r Safonau:
- Mae unigolion yn derbyn ymateb prydlon pan fyddant wedi cysylltu â phractis meddyg teulu dros y ffôn.
- Mae gan bractisau y systemau ffôn priodol ar waith i gefnogi anghenion unigolion sy'n golygu nad oes angen ffonio nôl sawl gwaith a byddant yn sicrhau eu bod yn ymateb i alwadau fel hyn.
- Mae unigolion yn cael gwybodaeth ddwyieithog am wasanaethau lleol a brys pan fyddant yn cysylltu â phractis.
- Mae unigolion yn gallu cael gwybodaeth am sut i gael help a chyngor.
- Mae unigolion yn cael y gofal cywir ar yr amser priodol mewn ffordd gyd gysylltiedig ar sail eu hanghenion.
- Mae unigolion yn gallu elwa ar amrywiol opsiynau i gysylltu â'u practis meddyg teulu.
- Mae unigolion yn gallu cyfathrebu’n digidol gyda’u practis yn gofyn am ymgynghoriad nad yw'n frys neu'n gofyn iddynt eu ffonio nôl.
- Mae practisau'n deall anghenion unigolion yn eu practis ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i ragweld y galw fydd am eu gwasanaethau.
Beth i’w ddisgwyl gan eich meddygfa leol
- Pan fyddwch chi’n cysylltu â’ch meddygfa, byddwch chi’n cael eich trin yn deg ni waeth pa ddull cysylltu a ddewiswch.
- Os byddwch yn dewis cysylltu â’ch meddygfa dros y ffôn, bydd galwadau’n cael eu hateb gan aelod hyfforddedig o staff a fydd yn asesu eich anghenion clinigol. I wneud yn siŵr eich bod yn cael y cymorth gorau, efallai y cewch eich cyfeirio at wasanaeth arall – bydd y rhesymau am hyn yn cael eu hesbonio’n glir ichi.
- Pan fo mynediad at wasanaeth (e.e. ymgynghoriad) yn glinigol briodol, byddwch yn cael eich asesu ac yn cael cynnig ymgynghoriad priodol, ar amser priodol heb fod angen ffonio’n ôl. Gall hyn olygu bod apwyntiad yn cael ei drefnu ar gyfer dyddiad yn y dyfodol ond bydd yn gyson â’ch angen clinigol a aseswyd.
- Byddwch yn gallu cysylltu â’ch meddygfa drwy wasanaeth ar-lein a derbyn gwasanaeth tebyg i’r rhai sy’n dewis ffonio.
- Bydd eich meddygfa yn agored ac yn onest am y gwasanaethau a gynigir, sut i gael gafael arnynt a sut i gael mynediad at wasanaethau ychwanegol neu eraill pan fo angen.