Pryderon

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gofal, rydym yn eich annog i siarad yn uniongyrchol â’r Rheolwr Practis yn y lle cyntaf, neu gyflwyno'ch pryder yn ysgrifenedig i'r practis neu drwy e-bost i info@alynfamilydoctors.co.uk

Sylwch, os gwelwch yn dda, mai dim ond os ydyn nhw o dan 16 oed y gallwn ni drafod pryderon gyda'r cleifion eu hunain, neu eu gwarcheidwad cofrestredig. Os hoffech i ni drafod pryder gyda thrydydd parti enwebedig, mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen awdurdodi.

Gellir gweld mwy o wybodaeth am sut i godi pryderon am y gwasanaethau GIG a ddarperir gan eich Meddyg Teulu ar: www.puttingthingsright.wales.nhs.uk

Os ydych yn anhapus â’r modd y bu i ni ymdrin â'ch pryder, gallwch gysylltu â Thîm Pryderon y bwrdd iechyd lleol:

Tîm Pryderon
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ysbyty Gwynedd
Bangor
LL57 2PW

01248 384194
ConcernsTeam.BCU@wales.nhs.uk

Os oes angen cymorth arnoch i godi achos o bryder, gallwch gysylltu â'r Cyngor Iechyd Cymunedol lleol. Mae eu heiriolwyr cleifion yn annibynnol ar y Bwrdd Iechyd ac yn gallu cynnig cefnogaeth a chyngor. Gellir cysylltu â nhw ar 01248 679284 neu 01978 356178

Os nad ydych yn fodlon â'r modd y bu i ni drafod eich pryder, neu’r modd y bu i’r Bwrdd Iechyd ei drafod, codwch hyn gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Y manylion cyswllt yw 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ, ffôn 0845 601 0987 neu e-bostiwch ask@ombudsman-wales.org.uk

Byddwch yn ymwybodol, os gwelwch yn dda, os ydych am fynd at yr Ombwdsmon gyda'ch pryderon, y dylech wneud hynny'n brydlon. Gall yr Ombwdsmon ystyried cwynion a wneir o fewn blwyddyn i'r materion y cwynir amdanynt (neu o fewn blwyddyn ar ôl i'r achwynydd ddod yn ymwybodol ohonynt).