Sayana Press

Gwnewch y Newid: O Depo-Provera i Sayana Press

Beth yw Sayana Press?

Mae Sayana Press yn bigiad atal cenhedlu sy'n cynnwys yr hormon medroxyprogesterone acetate, yn union fel Depo-Provera. Ond mae'n cynnig y fantai ychwanegol o hunanweinyddu (self-administration), gan roi mwy o reolaeth i chi dros eich dull atal cenhedlu.

Pam dewis Sayana Press?

Sut mae Sayana Press yn gweithio?

Mae Sayana Press yn atal beichiogrwydd drwy:

Sut i ddefnyddio Sayana Press?

  1. Paratoi: Gwnewch yn siŵr bod gennych chi:
    • Chwistrellwr Sayana Press
    • Gwlân cotwm glân, hances bapur, neu weip antiseptig
    • Cynhwysydd (container) ar gyfer y chwistrellwr ar ôl ei ddefnyddio
  2. Safle’r Pigiad:
    • Dewiswch fan ar eich abdomen (bol) neu ran uchaf eich clun blaen
    • Osgowch unrhyw greithiau neu groen llidus
  3. Glanhau'r Ardal:
    • Golchwch eich dwylo'n drylwyr
    • Glanhewch safle’r pigiad â dŵr neu weips antiseptig
  4. Chwistrellu:
    • Tynnwch y Sayana Press o'i becyn a'i archwilio
    • Chwistrellwch ef eich hun gan ddilyn y cyfarwyddiadau a roddir gan nyrsys y practis
  5. Gwaredu:
    • • Dylech gael gwared ar y chwistrellwr ar ôl ei ddefnyddio drwy ei roi mewn cynhwysydd eitemau miniog sydd â chaead porffor. Caiff hwn ei roi i chi gan y fferyllfa pan fyddwch chi'n casglu eich presgripsiwn cyntaf. Pan fydd eich bin eitemau miniog yn llawn, gallwch ei gyfnewid yn y fferyllfa am un newydd.

Pryd i ddefnyddio Sayana Press?

  • Newid o Depo-Provera – Gallwch ddefnyddio Sayana Press pan fydd eich pigiad Depo-Provera nesaf yn ddyledus a bydd gennych amddiffyniad atal cenhedlu llawn.
  • Defnydd cyntaf:
    • Os yw eich pigiad cyntaf o fewn y 5 diwrnod cyntaf o'ch mislif, rydych chi wedi'ch amddiffyn ar unwaith.
    • Os yw eich pigiad cyntaf fwy na 5 diwrnod ar ôl dechrau eich mislif, defnyddiwch ddull atal cenhedlu ychwanegol (e.e., condomau) am y 7 diwrnod cyntaf.

Sgileffeithiau posib

Gan fod Sayana Press a Depo-Provera yn cynnwys yr un cynhwysyn gweithredol (active ingredient) , mae ganddyn nhw sgileffeithiau tebyg, gan gynnwys:

  • Magu pwysau
  • Cur pen
  • Newid mewn hwyliau
  • Gwaedu neu smotiau afreolaidd
  • Adweithiau (reactions) ar safle'r pigiad (cochni, cosi, chwyddo)

Pethau pwysig i’w cofio